Nôl I Awen
aaa

HANES BRYNGARW


O 1775, roedd ystad Bryngarw, yn cynnwys y Tŷ, y gerddi ffurfiol a’r tir cyfagos, yn eiddo i’r teulu Traherne oedd yn berchen ar lo. Yn wreiddiol roedd yr ystad ei hunan yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ffiniau presennol ac i raddau helaeth cafodd ei werthu fel ffermdir yn ystod yr 20fed ganrif.

Yr aelod olaf o’r teulu Traherne i fyw ym Mryngarw oedd Capten Onslow Powell Traherne, stocbrocer a diwydiannwr o ardal ddymunol iawn o Lundain. Rhwng 1910 a 1920 fe wnaeth e ddefnyddio rhywfaint o’i gyfoeth i ymestyn y Tŷ, gan logi’r cwmni mawr ei barch o gynllunwyr tirlunParsons, Partridge a Tudway, i ddatblygu gardd Ddwyreiniol yn nhiroedd Bryngarw. Fe wnaeth e gyflwyno llawer o blanhigion a choed ecsotig, megis y goeden diwlip, coeden gadach, magnolias a secwoias a ddygwyd yn ôl o’i deithiau eang ledled y byd.

Yn y 1940au hwyr gwerthwyd yr ystad i ddyn busnes, R S Hayes. Roedd e a’i deulu’n byw yn y Tŷ tan ei farwolaeth ym 1959 pan gafodd ei werthu a’i gaffael gan y Cyngor Dosbarth Ogwr a Garw gynt a’i ddefnyddio fel llety cyngor. Cafodd y Tŷ ei droi’n naw fflat a lleolwyd 32 o garafannau preswyl yn y tiroedd.

Ym 1980, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Ogwr, a oedd erbyn hynny’n rheoli Bryngarw o ganlyniad i aildrefnu llywodraeth leol, ei ddynodi’n barc gwledig ar gyfer y dyfodol ac o 1982 ymlaen digwyddodd gwaith adfer ac adeiladu ar y safle dros gyfnod o bum mlynedd.

Adferwyd y gerddi ffurfiol a’r llyn wedi 25 mlynedd o esgeulustod, adeiladwyd maes parcio parhaol, gosodwyd rhwydwaith o lwybrau ac adeiladwyd cyfleusterau cyhoeddus. Agorwyd Parc Gwledig Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd ar23ain Mai 1986, gyda maes parcio, toiledau, caffi a maes chwarae i’r plant.

 
 
 

5385410017_dd78eac805_o

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i ddatblygu’r parc. Ym 1993 derbyniwyd cyllid Ewropeaidd i drawsnewid Tŷ Bryngarw yn westy gydag 19 o ystafelloedd gwely a, thrwy ychwanegu ystafell wydr, bwyty. Rhoddwyd trwydded iddo i gynnal priodasau a daeth yn leoliad poblogaidd ar gyfer cynadleddau a seminarau.

Yn 2012, cafodd canolfan ymwelwyr amlbwrpasol ei hadeiladu a’i hagor a mae’n cynnwys cyfres o gyfleusterau cyhoeddus gan gynnwys cyntedd arddangos, ystafell ddosbarth/gofod digwyddiadau, swyddfa ar gyfer y parcmyn, toiled ar gyfer pobl anabl a chaffi.

[Gyda diolchiadau i Gymdeithas Dreftadaeth Cwm Garw]