Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i gynnal Gŵyl Llên Plant gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr
19 Mai 2023

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal Gŵyl Llên Plant gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Sadwrn 20 Mai i ddydd Sul 4 Mehefin, diolch i gefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru , Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr .
Mae'r ŵyl bythefnos o hyd, a fydd yn cael ei chynnal yn y Grand Pavilion ym Mhorthcawl, Neuadd y Gweithwyr Blaengarw , Parc Gwledig Bryngarw a llyfrgelloedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr, yn gobeithio ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen ymhlith plant a phobl ifanc, trwy ddod â llyfrau'n fyw a dathlu llenyddiaeth ac adrodd straeon ym mhob ffurf.
Bydd y digwyddiadau’n cynnwys sgyrsiau gan awduron a barddoniaeth, cerddoriaeth fyw, sioeau hud, sesiynau dawns a symudiad, gweithdai ysgrifennu creadigol, llwybrau awyr agored, dangosiadau sinema, celf a chrefft, a chyfleoedd i ddysgu am ddarlunio. Bydd perfformiadau theatr cynhwysol gan y Chickenshed clodwiw, ac ymweliadau gan Connor Allen, Bardd Plant Cymru 2021-23, a’r darlledwr Roy Noble OBE hefyd yn rhan o’r rhaglen fywiog ac amrywiol o ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion a theuluoedd.
Bydd gweithgareddau allgymorth eraill yn cynnwys ymweliad gan Awen ac ymarferwyr creadigol â sesiynau teuluol 'Ti a Fi' CEM Parc. Mae'r sesiynau hyn yn rhan o fenter Muriau Anweledig Cymru'r carchar i gefnogi carcharorion i gynnal cysylltiadau cryf â'u plant.
Bydd cystadleuaeth farddoniaeth a 'chreu cymeriad' hefyd yn rhedeg drwy gydol yr ŵyl, gan roi cyfle i dalent leol ffynnu, a'r cyfle i blant ennill gwobrau gwych.
Esboniodd Prif Weithredwr Awen, Richard Hughes, fel rhan o ymrwymiad yr elusen gofrestredig i chwalu'r rhwystrau a allai atal pobl rhag cael mynediad at gelfyddydau a diwylliant ac ymgysylltu â nhw, y bydd digwyddiadau'r ŵyl naill ai'n rhad ac am ddim neu'n rhad iawn.
“Ein huchelgais yw creu digwyddiad blynyddol, gwirioneddol gynhwysol sy’n arddangos pob math o lenyddiaeth plant, ond gyda ffocws penodol ar yr iaith Gymraeg, awduron Cymreig sy’n dod i’r amlwg ac sy’n gyfarwydd, pobl o’r mwyafrif byd-eang a’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig eraill a phrofiad byw, a byddwn yn edrych i adeiladu ar hyn o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu cyllid, ond hefyd i’n sefydliadau partner Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Gwyliau Llenyddiaeth Plant a’r Asiantaeth Ddarllen am eu cefnogaeth barhaus.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol: “Rydym yn falch o allu cyflwyno’r ŵyl hon drwy ein partneriaeth ag Awen, ynghyd â chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Mae Gŵyl Llên Plant yn addo bod yn rhaglen ardderchog o ddigwyddiadau, yn cwmpasu nid yn unig llenyddiaeth, ond cerddoriaeth, dawns a llawer mwy – gan eu cyflwyno i deuluoedd ac ysgolion ledled y fwrdeistref sirol.
“Drwy dynnu sylw at awduron, artistiaid a phobl greadigol eraill o Gymru, gallwn ysbrydoli a goleuo’r ffordd i’r genhedlaeth nesaf.
“Rydym yn sicr y bydd yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn datblygu.”
Gellir archebu pob digwyddiad ymlaen llaw drwy wefan docynnau Awen: www.awenboxoffice.com .