GWYL LLENYDDIAETH PLANT PEN-Y-BONT AR OGWR YN DYCHWELYD AM EI THRYDYDD FLWYDDYN
22 Ionawr 2025

Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cynnal ei thrydydd Gŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr o ddydd Sadwrn 22 Chwefror i ddydd Sadwrn 1 Mawrth, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth y DU.
Mae'r ŵyl hanner tymor, a gynhelir ym Mharc Gwledig Bryngarw, Neuadd y Dref Maesteg a llyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gobeithio ennyn diddordeb ac ysbrydoli mwynhad o lyfrau a darllen ymhlith plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau, a fydd yn cychwyn gyda pherfformiad gan y drymwyr hynod boblogaidd Spark! LED yn Neuadd y Dref Maesteg, hefyd yn cynnwys:
- Babis Bach: Y Gruffalo – adrodd straeon dwyieithog gyda cherddoriaeth delyn fyw, gwisgo i fyny, crefft a chanu
- Naz Syed: Stori a Chrefft – clywch stori 'Swallow's Kiss' a chreuwch eich aderyn dymuniadau papur eich hun
- Sioe Fawr y Deinosoriaid – sioe deuluol yn llawn cerddi, rapiau a chaneuon am eich hoff greaduriaid cynhanesyddol
- Will Millard: Hud y Dŵr – archwiliad trochol o dan wyneb y dŵr gyda'r anturiaethwr, awdur a chyflwynydd teledu
Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Richard Hughes:
“Diolch i gefnogaeth ein partneriaid ariannu, rydym yn gallu cynnig rhaglen llawn hwyl o ddigwyddiadau sydd am ddim neu am gost isel i deuluoedd eu mwynhau yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Mae hyn yn bwysig iawn i Awen gan ein bod wedi ymrwymo i gael gwared ar unrhyw rwystrau, fel heriau ariannol, a allai atal pobl rhag cael mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn eu hardal leol.
“Yn anffodus, mae ymchwil wedi canfod bod cyrhaeddiad llythrennedd plant yng Nghymru wedi cael ei effeithio’n ddifrifol gan y pandemig. Gobeithiwn y gall Gŵyl Llên Plant Pen-y-bont ar Ogwr chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â’r mater hwn drwy helpu i ddod â llyfrau a straeon yn fyw drwy brofiadau cyffrous a chofiadwy i bob oed.”
MAE RHAGLEN LLAWN O DDIGWYDDIADAU AR GAEL AR EIN GWEFANNAU: https://www.awen-wales.com/bclf-2025/ a https://awenboxoffice.com/bridgend-childrens-literature-festival-2025/
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Toni Cosson, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, ar 07808782877 neu e-bostiwch toni.cosson@awen-wales.com