Bwydlen haf Caffi Bryngarw yn cael ei lansio ar 3ydd Awst 2023
3ydd Awst 2023

Bydd bwydlen haf Caffi Bryngarw yn lansio'n swyddogol ddydd Iau 3ydd Awst 2023!
Gyda rhai ychwanegiadau newydd blasus gan gynnwys baguettes crefftus, mae digon i ddewis ohono wrth ymweld dros wyliau'r haf.
Mae ein caffi ar agor o 10am i 4.30pm bob dydd, ac mae croeso i'r teulu cyfan gan gynnwys ffrindiau pedair coes, gofynnwn i berchnogion gydymffurfio â'n cod cŵn wrth ymweld.
- Mae croeso i gŵn yn ôl disgresiwn y staff
- Byddwch yn ystyriol o gwsmeriaid eraill os gwelwch yn dda
- Rhaid cadw cŵn ar dennyn
- Dim pawennau ar y byrddau a dim cŵn ar lin y perchnogion
- Dim cyfarth os gwelwch yn dda
Mae yna bowlenni ar gyfer dŵr a danteithion hefyd – gofynnwch i aelod o’r tîm!