Oriau Agor Nadolig Bryngarw 2023

13 Rhagfyr 2023

Oriau Agor Nadolig Bryngarw 2023

Mwynhewch Barc Gwledig Bryngarw dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Bydd ein cyfleusterau toiled ar gau o ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr i ddydd Mercher 27 Rhagfyr, gan ailagor fel arfer ddydd Iau 28 Rhagfyr.

Bydd ein caffi a'r toiled yn ein Canolfan Ymwelwyr ar agor i'w defnyddio fel arfer dros gyfnod yr ŵyl, ar wahân i gau ddydd Llun 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig) a dydd Mawrth 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan).

Bydd y giât i'r parc a'r maes parcio yn aros ar agor i ymwelwyr fwynhau taith gerdded dros gyfnod yr ŵyl.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl ymwelwyr!