Parc Gwledig Bryngarw wedi derbyn cyllid o dros £130,000

21 Rhagfyr 2022

Parc Gwledig Bryngarw wedi derbyn cyllid o dros £130,000

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid o dros £130,000 gan Lywodraeth Cymru a Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella'r coetiroedd hanesyddol ym Mharc Gwledig Bryngarw.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i: wneud gwaith cadwraeth ar y coed presennol; adeiladu llwybr pren a llwyfan gwylio newydd; plannu coed llydanddail brodorol lled-aeddfed; gosod gatiau newydd, meinciau derw a blychau draenog ac adar; ychwanegu arwyddion a dehongli; ymgymryd â gwaith cynnal afon; ac ymdrin â rhywogaethau ymledol gan gynnwys Canclwm Japan a Jac y Neidiwr o fewn y safle 113 erw.

Bydd y grant hefyd yn talu cost offer a hyfforddiant sgiliau i staff a gwirfoddolwyr ar gyfer cynnal a chadw parhaus y coetiroedd, ail-wynebu rhai o lwybrau troed Bryngarw i'w gwneud yn fwy hygyrch i ymwelwyr â symudedd cyfyngedig a chreu ystafell ddosbarth coetir a phecyn addysg i ysgolion a grwpiau ddysgu am ecosystemau coetiroedd.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgysylltu â'r gymuned leol a sefydliadau partner, a gobeithio y byddant yn ein cefnogi i gyflawni'r prosiect cyffrous hwn. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am fanylion digwyddiadau a chyfleoedd!