Parc Gwledig Bryngarw i ddod yn ganolfan ar gyfer menter 'Fy Nghoeden, Ein Coedwig'

17 Chwefror 2023

Parc Gwledig Bryngarw i ddod yn ganolfan ar gyfer menter 'Fy Nghoeden, Ein Coedwig'

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Parc Gwledig Bryngarw yn dod yn ganolfan ar gyfer y fenter 'Fy Nghoeden, Ein Coedwig'.

Mae Llywodraeth Cymru a Choed Cadw, Ymddiriedolaeth Coetiroedd Cymru , yn cynnig miloedd o goed i gartrefi yng Nghymru, yn rhad ac am ddim.

Bydd y coed yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ac yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd ein hyb wedi'i leoli y tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwledig Bryngarw a bydd ar agor bob dydd Mawrth o 2pm tan 2.30pm tan 31 Mawrth 2023.

Bydd y coed yn cael eu dosbarthu gan Warcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd , felly dewch draw i gasglu eich coeden am ddim a dod yn rhan o 'Fy Nghoeden, Ein Coedwig' yng Nghymru.

Os na allwch gasglu coeden o'n hwb, mae yna ffyrdd eraill o gymryd rhan.

  • Gall yr Ymddiriedolaeth Goedlannau blannu coeden ar eich rhan, yn rhad ac am ddim. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw llenwi ffurflen ar-lein a byddan nhw'n gofalu am y gweddill.
  • Gallwch gael coeden wedi'i phostio atoch. Mae 40,000 o goed post ar gael ar sail y cyntaf i'r felin a gallwch wneud cais am un gan ddefnyddio ffurflen ar-lein drwy'r Ymddiriedolaeth Coedlannau.