Ymunwch â'r Ceidwad Adam ar Helfa Madarch

14 Tachwedd 2023

Ymunwch â'r Ceidwad Adam ar Helfa Madarch

Ymunwch â'r Ranger Adam ar gyfer Helfa Madarch Bryngarw ddydd Mawrth 21ain Tachwedd!

Darganfyddwch a dysgwch am fyd rhyfedd a rhyfeddol madarch gwyllt a ffyngau ac edrychwch ar y pethau rhyfeddol sy'n digwydd ym Mharc Gwledig Bryngarw.

Dewch â chamera a dillad ac esgidiau sy'n addas ar gyfer y tywydd gan y byddwn yn mentro oddi ar y llwybrau sefydledig.

Bydd y digwyddiad hwn yn para tua 90 munud a rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Mae tocynnau am ddim ond mae archebu’n hanfodol gan fod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael, ewch i wefan ein swyddfa docynnau i archebu.

Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o 'Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG)' Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd i ni yn 2022.