Madarch Bryngarw a ddefnyddir mewn seigiau ar draws lleoliadau Awen
22 Mai 2023

Rydym mor falch bod Madarch Bryngarw yn cael eu defnyddio mewn seigiau ar draws lleoliadau Awen a thu hwnt.
Wedi'u tyfu a'u meithrin yn B-Leaf gan ein hyfforddeion, sy'n oedolion ag anableddau dysgu, mae'r madarch wystrys egsotig yn cael eu cyflenwi i'r Grand Pavilion ym Mhorthcawl a Thŷ Bryngarw .
Ar gael mewn sawl pryd, gan gynnwys brecwastau priodas yn Nhŷ Bryngarw a'r brecwast fegan yn y Grand Pavilion, mae ein cogyddion wedi cael eu plesio'n fawr gan ansawdd y cynnyrch ac maent yn bwriadu eu hymgorffori mewn mwy o seigiau ar draws y fwydlen.
Y tu allan i Awen, mae ein madarch egsotig yn cael eu cyflenwi i Star Inn, Troes ac mae samplau wedi'u dosbarthu i gaffis a bwytai lleol eraill i'w blasu.
Os ydych chi'n fusnes lleol a hoffai gael sampl, cysylltwch â thîm B-Leaf:
Ffôn: 01656 728039
E-bost: bleaf.woodb@awen-wales.com
Dysgwch fwy am fenter Madarch Bryngarw drwy ymweld â gwefan Awen .