Bryngarw yn dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru
28 Tachwedd 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Parc Gwledig Bryngarw bellach yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru , gan gydnabod ein hymrwymiad i greu gofod coetir enghreifftiol.
Ymwelodd y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd Julie James MS â Pharc Gwledig Bryngarw yn gynharach y mis hwn i gyhoeddi ei statws newydd.
Bydd y Goedwig Genedlaethol, a fydd yn y pen draw yn ymestyn ar hyd a lled Cymru, yn cynnwys creu ardaloedd coetir newydd ac yn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol Cymru.
Mae 41 o safleoedd coetir bellach yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru, gan gynnwys 26 sy'n rhan o ystâd Llywodraeth Cymru, sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.