Wythfed Faner Werdd Parc Gwledig Bryngarw

18 Gorffennaf 2023

Wythfed Faner Werdd Parc Gwledig Bryngarw

Mae Parc Gwledig Bryngarw wedi cyrraedd y safon uchel sy'n ofynnol i chwifio'r Faner Werdd nodedig am flwyddyn arall!

Rhoddir y wobr i barciau a mannau gwyrdd sydd ar gael i'r cyhoedd ac sydd wedi cyrraedd safonau rhyngwladol ym meysydd: lle croesawgar; iach, diogel a sicr; wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn lân; rheolaeth amgylcheddol; bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth; cynnwys y gymuned; marchnata a chyfathrebu; rheolaeth.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Rydym wrth ein bodd bod Parc Gwledig Bryngarw wedi cadw ei Faner Werdd am yr wythfed flwyddyn yn olynol a’i Achrediad Treftadaeth Werdd am y pumed tro. Gyda’n partneriaid yn BCBC a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, rydym wedi buddsoddi dros £1 miliwn yn y Parc, i wella profiad yr ymwelwyr yn sylweddol, cynyddu hygyrchedd a chynaliadwyedd a chynnig man gwyrdd o ansawdd uchel ar gyfer lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol.

“Nid ydym yn hunanfodlon, fodd bynnag, a byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwelliannau i’r Parc sy’n cael ei fwynhau gan dros 220,000 o bobl y flwyddyn. Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr a’n gwirfoddolwyr am eu hymdrechion i gynnal y safonau uchel a fynnir gan y ddwy wobr hyn; diolch i’w gwaith caled a’u hymroddiad yr ydym wedi gallu cadw’r cyflawniadau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Yng Nghymru, Cadwch Gymru'n Daclus sy'n rhedeg y cynllun gwobrau. Ychwanegodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus:

“Nid yw mynediad am ddim i ofod gwyrdd diogel o ansawdd uchel erioed wedi bod yn bwysicach. Mae ein safleoedd arobryn yn chwarae rhan hanfodol yn lles meddyliol a chorfforol pobl, gan ddarparu hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur. Mae'r newyddion bod 280 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni Gwobrau'r Faner Werdd yn dyst i waith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lwyfan y byd.”