MAE'R FANER WERDD YN PARHAU I CHWIFRO YN PARC GWLEDIG BRYNGARW
14 Gorffennaf 2026

Mae Parc Gwledig Bryngarw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Werdd unwaith eto, gan nodi ei unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol o gydnabyddiaeth am safonau uchel mewn rheolaeth amgylcheddol, profiad ymwelwyr a chyfranogiad cymunedol.
Cyhoeddodd Cadwch Gymru'n Daclus heddiw fod 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, sef nifer record, wedi cyrraedd y safonau uchel sy'n ofynnol i dderbyn Baner Werdd yn 2026. Cyflawnodd pedwar ar ddeg o'r safleoedd hyn, gan gynnwys Parc Gwledig Bryngarw, Achrediad Safle Treftadaeth Werdd hefyd, gyda chefnogaeth Cadw.
Cafodd Parc Gwledig Bryngarw, sy'n cael ei reoli gan yr elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ar ran, ac mewn partneriaeth â, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ei gydnabod am fod yn ddiogel a sicr, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac yn lân, â rheolaeth amgylcheddol ragorol ac am fod yn groesawgar i ymwelwyr.
Un o fannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Pen-y-bont ar Ogwr, mae Bryngarw yn croesawu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Wedi'i leoli o fewn 113 erw o goetiroedd, dolydd a gerddi, mae'r parc yn darparu lle i bobl gysylltu â natur, gwella eu lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r parc wedi elwa o welliannau sylweddol gan gynnwys canolfan ymwelwyr wedi'i huwchraddio, dehongli ac arwyddion gwell, lloches beiciau a chyfleuster golchi cŵn, offer chwarae naturiol, paneli solar, toiledau cyhoeddus a hygyrch wedi'u hadnewyddu a llwybr cerfluniau newydd.
Yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae datblygiad Y Nyth wedi creu canolfan addysg a lles bwrpasol, gan gefnogi ymrwymiad Awen i ddysgu yn yr awyr agored, ymwybyddiaeth amgylcheddol a lles cymunedol.
Yn fwy diweddar, derbyniodd Bryngarw dros £200,000 drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan gan Lywodraeth Cymru a Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i adnewyddu'r ardal chwarae i blant. Bydd yn ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yfory (dydd Mercher 15 Gorffennaf).
Mae llwyddiant y Faner Werdd i'r parc yn dyst i'r bobl sy'n gofalu amdano drwy gydol y flwyddyn. Mae tîm ceidwaid Bryngarw yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn cyntaf pob mis i gefnogi tasgau cynnal a chadw a rheoli amgylcheddol.
Mae staff a hyfforddeion o B-Leaf a Wood-B hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig drwy dorri glaswellt, cynnal a chadw coetiroedd a mieri, casglu sbwriel, atgyweirio llwybrau a phontydd. Maent hefyd yn gwneud meinciau a byrddau picnic ac yn ddiweddar adeiladwyd strwythur ystafell ddosbarth awyr agored pren newydd.
Mae eu cyfranogiad yn dangos effaith gymdeithasol ehangach Parc Gwledig Bryngarw; gan greu cyfleoedd i oedolion ag anableddau dysgu ddatblygu sgiliau, meithrin hyder, cyfrannu at eu cymuned a chymryd balchder mewn gofalu am ofod gwyrdd annwyl.
Mae gwaith cadwraeth dan arweiniad gwirfoddolwyr, fel rheoli ffromlys yr Himalaya, gwrychoedd marw, clirio pyllau, rheoli mieri a phlannu coed, yn cefnogi bioamrywiaeth a rheoli cynefinoedd wrth alluogi cyfranogwyr i ennill sgiliau ymarferol, aros yn egnïol a theimlo'n fwy cysylltiedig â natur.
Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:
“Mae derbyn Gwobr y Faner Werdd am yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol, a chadw ein Hachrediad Safle Treftadaeth Werdd, yn gamp enfawr ac yn deyrnged i bawb sy'n gofalu am Barc Gwledig Bryngarw drwy gydol y flwyddyn.
“Mae Bryngarw yn llawer mwy na lle hardd i ymweld ag ef. Mae'n ased cymunedol hanfodol sy'n cefnogi iechyd a lles pobl, yn helpu plant a theuluoedd i ddysgu am natur, ac yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi ystyrlon.
“Yn Awen, ein pwrpas yw gwneud bywydau pobl yn well. Mae Bryngarw yn dangos y pwrpas hwnnw ar waith bob dydd, boed rhywun yn gadael ar ôl taith gerdded yn teimlo'n well nag yr oedd pan gyrhaeddon nhw, plentyn yn darganfod rhywbeth newydd am y byd o'u cwmpas neu wirfoddolwr yn helpu i amddiffyn cynefin lleol.
“Rydym yn falch o reoli’r parc mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn ddiolchgar i’n staff, gwirfoddolwyr, hyfforddeion, sefydliadau partner ac ymwelwyr sydd i gyd yn chwarae rhan wrth wneud Bryngarw yn lle mor arbennig.”
Mae Gwobrau’r Faner Werdd yn cael eu cydnabod mewn mwy nag 20 o wledydd ac yn gwobrwyo’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau, felly mae ymwelwyr yn gwybod lle bynnag y mae Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle eithriadol gyda’r safonau uchaf.
Yng Nghymru, Cadwch Gymru'n Daclus sy'n rhedeg y cynllun gwobrau. Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Owen Derbyshire:
“Mae Cymru wir yn gosod y safon o ran mannau gwyrdd rhagorol, gyda 330 o leoedd wedi’u cydnabod yng Ngwobrau’r Faner Werdd eleni. O barciau blaenllaw a choetiroedd bywiog i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos flwyddyn ar ôl blwyddyn fod ganddi ymrwymiad diysgog i feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau.
“Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru a hoffem ddiolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n chwarae rhan wrth sicrhau bod y lleoedd arbennig hyn yn ffynnu a bod pawb yn gallu eu mwynhau.”