Cymerwch ran yn ein Cystadleuaeth Cerfio Pwmpenni flynyddol
18 Medi 2023

Rhyddhewch eich creadigrwydd gartref a cherfiwch bwmpen arobryn ar gyfer ein llwybr Gardd y Coetir. Gallant fod o unrhyw siâp neu faint, yn arswydus neu'n gyfeillgar, yn syml neu'n gymhleth, gallwch hyd yn oed eu peintio neu eu haddurno os yw'n well gennych!
Bydd y pwmpenni ar gael i'w gweld yng Ngardd y Coetir (rhwng Tŷ Bryngarw a B-Leaf) rhwng 10am a 4pm ddydd Mawrth 31 Hydref.
Byddwn yn dyfarnu tocyn parcio ceir blynyddol Parc Gwledig Bryngarw i'n hoff bwmpen wedi'i cherfio gan blentyn dros 12 oed a thocyn pantomeim teuluol (Y Harddwch a'r Bwystfil) ar gyfer y Pafiliwn Mawr i'n hoff bwmpen wedi'i cherfio gan blentyn 11 oed ac iau.
Gadewch eich pwmpenni wedi'u cerfio neu eu haddurno i'r Nyth, ein Canolfan Addysg a Llesiant wrth ymyl y Ganolfan Ymwelwyr, ddydd Sadwrn 28ain a dydd Llun 30ain Hydref rhwng 10am a 3pm.
Nid oes tâl i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn.