Amdanom Ni

Amdanom Ni

Amdanom Ni

Os ydych chi鈥檔 dymuno cael hoe fach o straen dyddiol bywyd, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Datblygwyd ystad Bryngarw drwy gydol y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif gan aelodau o deulu Traherne fel man prydferth a lle i ymlacio. Mae iddi yr un diben heddiw, ond nawr mae’n barc i bawb ei fwynhau. Mae’n chwarae rhan ecolegol bwysig hefyd, drwy fod yn gartref i ystod amrywiol o fflora a ffawna sy’n byw mewn mosaig o gynefinoedd naturiol.

 

Mae Parc Gwledig Bryngarw, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi elwa ar gyfleusterau rhagorol a ychwanegwyd dros y blynyddoedd, yn fwyaf diweddar, canolfan ymwelwyr well sy’n cynnwys caffi, arddangosfeydd rhyngweithiol am y parc, cwtsh adrodd straeon a mwy.

 

Gall ein parcmyn eich helpu i fanteisio i鈥檙 eithaf ar eich ymweliad, ac rydym yn cynnig rhaglen trwy鈥檙 flwyddyn o weithgareddau sy’n cynnwys popeth o theatr awyr agored i deithiau cerdded tywysedig. Mae digon o gyfleoedd addysgol hefyd, o ‘bingo adar’, llwybrau natur a phyllau chwilota i weithgareddau gr诺p dan arweiniad parcmon.

 

P’un a ydych chi eisiau teithio’r llwybrau coetir ar eich beic, gweld bywyd gwyllt anhygoel neu fwynhau heddwch a llonyddwch ein Gardd Ddwyreiniol, bydd ymweliad 芒 Pharc Gwledig Bryngarw yn magu nerth newydd ynoch ac yn eich helpu i gysylltu 芒 byd natur.

Porth Darganfod

Mae Parc Gwledig Bryngarw yn un o 11 o safleoedd Porth Darganfod a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Nod y fenter yw cydnabod a manteisio i’r eithaf ar botensial treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymoedd De Cymru. Drwy wneud hyn, mae’n ceisio sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

Yn ogystal 芒 bod yn gyrchfannau yn eu rhinwedd eu hunain yn gweithio ar eu cynnig i bobl leol ac ymwelwyr, mae safleoedd Porth Darganfod yn gweithio mewn partneriaeth i helpu pobl i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y tirweddau amrywiol ar garreg y drws.

Amdanom Ni
Amdanom Ni

Hanes Bryngarw

Mae gan ystad Bryngarw, gyda’i th欧 hardd, gerddi ffurfiol a llyn trawiadol, hanes cyfoethog sy’n dyddio’n 么l gannoedd o flynyddoedd. Arferai fod yn rhan o ystad lawer mwy, o鈥檙 enw Ystad Goetre-hen, a oedd yn cynnwys T欧 Goetre-hen a鈥檙 tir o amgylch, yn ogystal 芒 nifer o bocedi eraill o dir o amgylch Morgannwg.

Find out more

Our Team

Amdanom Ni

Keith Douglas

Mae Keith wedi gweithio ym Mryngarw fel parcmon ers diwedd y 1980au, ac mae鈥檔 rheolwr cefn gwlad ers dros 30 mlynedd. Roedd ei swyddi blaenorol yn cynnwys gweithio i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sussex a Pharc Cenedlaethol Dartmoor. Ei faes arbenigedd yw adar coetir, yn enwedig cnocellau鈥檙 coed ac mae wedi teithio'n eang ledled Ewrop i chwilio am rywogaethau cnocell y coed eraill. Mae'n gwirfoddoli gyda'r RSPB.

Amdanom Ni

Beth Hopkins

Cydlynydd Addysg a Datblygu Ymunodd Beth 芒 th卯m y parcmyn am y tro cyntaf yn 2014 fel Parcmon Tymhorol. Ers ennill gradd mewn Bioleg Bywyd Gwyllt, mae wedi gweithio a gwirfoddoli i nifer o sefydliadau cadwraeth gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, T卯m Ymchwil Ecoleg Abertawe ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Gan ei bod yn teimlo鈥檔 angerddol ynghylch byd natur a theithio, mae Beth wedi bod ar deithiau sy'n gysylltiedig 芒 chadwraeth i Affrica a De America ac, yn ei hamser hamdden, mae'n artist bywyd gwyllt amatur.

Amdanom Ni

Adam Davies

Ymunodd Adam 芒 Pharc Gwledig Bryngarw fel Ceidwad Parc dros dro yn 2020, gan adael ei yrfa fel crefftwr cynhaliaeth fecanyddol yn y diwydiant modurol. Yn ogystal 芒 bod yn driniwr coed cymwys, mae gan Adam ddiddordeb mewn 鈥榖yw yn y gwyllt鈥 a chasglu bwydydd gwyllt, ac wedi mynychu nifer o gyrsiau am y pynciau hynny. Yn ei amser hamdden, mae Adam yn adaryddwr brwd ac hefyd yn mwynhau dringo mynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.