Ein Hanes

Hanes Bryngarw

Mae gan ystad Bryngarw, gyda’i th欧 hardd, gerddi ffurfiol a llyn trawiadol, hanes cyfoethog sy’n dyddio’n 么l gannoedd o flynyddoedd.

. Arferai fod yn rhan o ystad lawer mwy, o鈥檙 enw Ystad Goetre-hen, a oedd yn cynnwys T欧 Goetre-hen a鈥檙 tir o amgylch, yn ogystal 芒 nifer o bocedi eraill o dir o amgylch Morgannwg.

 

Yn hanesyddol, roedd Ystad Goetre-hen ym meddiant y teulu Powell cyn iddi gael ei throsglwyddo i John Popkin ar ddiwedd y 1700au. Ar adeg ei farwolaeth ym 1798, nid oedd gan John Popkin unrhyw etifeddion ac felly fe adawodd yr ystad gyfan i’w chwaer, Frances – a oedd, ym 1775, wedi priodi Edmund Traherne, o Gastellau.

 

Erbyn dechrau’r 1800au, roedd yr ystad yn nwylo Morgan Popkin Traherne, trydydd mab Edmund a Frances (yn anffodus bu farw鈥檙 ddau fab hynaf). Morgan Popkin Traherne a adeiladodd D欧 Bryngarw a hynny tua 1830, fel rhodd i’w chwaer weddw, Frances Jenner. Yn ei Eiriadur Topograffig o Gymru, a ysgrifennwyd ym 1833, nododd Samuel Lewis: “Within half a mile of Coytreh锚n, a small but elegant residence has been erected, in the Elizabethan style of architecture, under the direction of Mr Traherne, for his sister, the widow of the late George Jenner, Esq, of Doctors’ Commons.”

 

Roedd Frances Jenner yn byw ym Mryngarw 鈥 y cyfeirir ato’n wreiddiol fel Glan Garw 鈥 am ddeugain mlynedd tan ei marwolaeth ym 1873, yn 92 oed. Ar yr adeg hon, roedd yr ystad yn eiddo i John Popkin Traherne, mab Morgan Popkin Traherne. Fodd bynnag, nid oedd John Popkin Traherne yn byw yno, ac felly prydleswyd Bryngarw i gyplau a theuluoedd cyfoethog; roedd ei thenantiaid yn cynnwys dynion busnes a chyfarwyddwyr pyllau glo. Mae erthyglau papur newydd yn dangos cipolwg diddorol ar gynllun y T欧 yn ystod y cyfnod hwn. Nododd hysbyseb yn y South Wales Daily News ym 1888:

 

To be let (furnished), Bryngarw House, close to a station on the Great Western Railway, and four miles from Bridgend, containing three sitting-rooms, seven bedrooms, and dressing room; good stabling; land if required.鈥

 

Un o’r teuluoedd i gael prydles oedd William John, rheolwr gyfarwyddwr Bragdy Abergarw. Un o’r ffotograffau hynaf sydd gennym o D欧 Bryngarw yw un o William, ei deulu, a鈥檌 weision, yn sefyll ar gyfer portread tua 1896. Yn ystod eu cyfnod yn byw ym Mryngarw, rhoddodd Mr a Mrs John nifer o hysbysebion yn y papurau lleol ar gyfer gwerthu da byw a pheiriannau fferm, yn ogystal ag ar gyfer gweision fel “gwas-arddwr”, golchwraig, gweithiwr fferm/da byw a llawforwyn – sy鈥檔 rhoi cipolwg ar fywyd ar ddiwedd y 1800au.

 

Bu farw John Popkin Traherne ym 1901 a gan nad oedd ganddo unrhyw etifeddion, trosglwyddodd holl ystad Goetre-hen, gan gynnwys Bryngarw, i’w nai Capten Onslow Powell Traherne. Cafodd Onslow Powell Traherne ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i addysgu yn Sherbourne ac roedd yn frocer stoc a oedd yn byw yn Llundain pan etifeddodd yr ystad.

 

Yn y blynyddoedd cynharach ar 么l iddo etifeddu鈥檙 ystad, anaml iawn y byddai Onslow Powell Traherne yn byw ar yr ystad ac mae cofnodion y cyfrifiad ac erthyglau papur newydd yn dangos bod T欧 Bryngarw yn parhau i gael ei brydlesu tan y 1920au. Yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd rhyw Mr a Mrs Llewellyn yn byw yno. Diolch i archifau papurau newydd Cymru gwyddom fod Mrs Llewellyn yn eiriolwr mawr dros Gymdeithas y Groes Goch leol, gan roi a chodi arian i helpu ymdrech y rhyfel.

 

Chwaraeodd T欧 Bryngarw ran bwysig yn ystod y rhyfel: fe’i sefydlwyd fel Ysbyty Cynorthwyol y Groes Goch, dan yr enw Ysbyty Parc Goetre-hen, ym 1915. Bwriad Mrs Llewellyn oedd sefydlu 30 i 35 o welyau ar gyfer y milwyr clwyfedig o’r ardal a bu’n arweinydd ymroddedig ar yr ysbyty. Ym 1919, cyhoeddodd y Glamorgan Gazette erthygl yn cofnodi bod Mrs Llewellyn wedi derbyn anrheg hael gan drigolion yr ardal fel arwydd o’u hymdeimlad dwfn o werthfawrogiad o’i gwasanaethau gwerthfawr di-d芒l a鈥檌 hymroddiad i’r gwaith o ddod 芒 chysur i’r milwyr clwyfedig yn ei gofal.

 

Er nad oedd o reidrwydd yn byw ar yr ystad, gwnaeth Onslow Powell Traherne nifer o newidiadau i diroedd yr ystad ar ddechrau’r 1900au. Er enghraifft, cafodd y llyn ym Mryngarw ei gloddio o’r hyn a oedd yn wreiddiol yn ardal gorsiog a oedd yn cael ei bwydo gan ffynnon fechan yn y goedwig a chafodd ei ddefnyddio ar gyfer pysgota cystadleuol a hela adar gwyllt.

 

Rhwng tua 1910 a 1920 defnyddiodd rywfaint o’i gyfoeth i ymestyn y t欧 a llogi’r dylunwyr tirwedd uchel eu parch Parsons, Partridge a Tudway i ddatblygu’r Ardd Ddwyreiniol. Yn ddyn ifanc treuliodd lawer iawn o amser yn teithio tramor ac roedd yn gallu ymroi i’w ddiddordeb gydol oes mewn botaneg. Cyflwynodd lawer o blanhigion a choed egsotig i’r ystad, er enghraifft y masarn Japaneaidd, magnolias a rhododendrons, ac mae rhai ohonynt yn dal i fodoli yn y parc heddiw.

 

Bu Onslow Powell Traherne yn byw ym Mryngarw o’r 1920au tan farwolaeth ei wraig ym 1940, pan werthodd Ystad Bryngarw i ddyn busnes lleol, Mr Hayes, a symud i fwthyn cyfagos yn y Betws. Arhosodd yn y Betws tan ei farwolaeth ym 1950, yn 84 oed.

 

Roedd Mr Hayes a’i deulu yn byw yn y t欧 tan ei farwolaeth ym 1959 pan aeth i feddiant Cyngor Dosbarth Ogwr a Garw fel yr oedd ar y pryd i’w ddefnyddio fel llety cyngor. Addaswyd y t欧 yn naw fflat, a symudwyd perllan yr ystad i wneud lle ar gyfer 32 o garafanau preswyl.

 

Yn 1980, Cyngor Bwrdeistref Ogwr oedd bellach yn gyfrifol am Fryngarw o ganlyniad i ad-drefnu llywodraeth leol, a dynodwyd Bryngarw yn barc gwledig ar gyfer y dyfodol, ac ym 1982 dechreuwyd ar raglen bum mlynedd o waith adfer ac adeiladu.

 

Yn rhan o’r gwaith hwn, adferwyd y gerddi ffurfiol a’r llyn, symudwyd y carafanau i greu maes parcio parhaol, gosodwyd rhwydwaith o lwybrau ac adeiladwyd cyfleusterau cyhoeddus. Agorwyd Parc Gwledig Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd ar 23 Mai, 1986, ynghyd 芒 maes parcio, toiledau, caffi a man chwarae i blant.

 

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i ddatblygu’r parc. Ym 1993 derbyniwyd arian Ewropeaidd i drawsnewid T欧 Bryngarw yn westy gyda 19 ystafell wely ac ychwanegwyd ystafell wydr a bwyty. Rhoddwyd trwydded iddo i gynnal priodasau ac mae wedi dod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cynadleddau a seminarau.

 

Yn 2012, agorwyd canolfan ymwelwyr amlddefnydd. Roedd yn cynnwys cyfres o gyfleusterau cyhoeddus gan gynnwys cyntedd arddangos, ystafell ddosbarth/man digwyddiadau, swyddfa ar gyfer parcmyn y parc, toiled i’r anabl a chaffi.

 

Ers 2015, mae’r t欧 a’r parc gwledig wedi cael eu rheoli gan yr elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mewn partneriaeth 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn 2021, cafodd y ganolfan ymwelwyr ei hailwampio ac ychwanegwyd sawl nodwedd newydd, gan gynnwys cwtsh helyg i blant a man adrodd straeon, ardal lesiant ar gyfer gorffwys ac ymlacio ac arddangosfeydd yn rhoi manylion stori Bryngarw.