Natur

Natur

Os ydych chi’n angerddol ynghylch cadwraeth neu eisiau cymryd rhan fel gwirfoddolwr, mae’r dudalen hon ar eich cyfer chi.

Nid atyniad gwych i ymwelwyr yn unig yw Bryngarw; mae hefyd yn adnodd naturiol hynod bwysig sy’n cael ei reoli’n sensitif er mwyn diogelu a hyrwyddo ei fioamrywiaeth. Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

Natur

Dolydd blodau gwyllt

Mae gan Fryngarw tua chwe erw o ddolydd blodau gwyllt brodorol yng ngorllewin y parc. Mae’r DU wedi colli dros 97% o’i dolydd blodau gwyllt brodorol ers yr Ail Ryfel Byd, felly yma ym Mryngarw rydym yn hynod o falch ac yn amddiffynnol o’r dolydd sydd gennym.

Coetiroedd cymysg

Mae’r 70 erw o goetiroedd cymysg ym Mryngarw yn cynnwys amrywiaeth o goed brodorol aeddfed gan gynnwys castanwydd p锚r aeddfed, coed derw hynafol a ffawydd uchel. Mae llawer o’r coed hyn yn gannoedd o flynyddoedd oed ac yn bwysig iawn i fywyd gwyllt. Mae’r coetiroedd yn cael eu rheoli’n sensitif i sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion ymwelwyr yn y parc a bywyd gwyllt. Mae gan y DU bron i hanner poblogaeth clychau’r gog y byd, felly mae arddangosfeydd fel y rhai a welir ym Mryngarw yn y gwanwyn o safon fyd-eang.

 

Natur
Natur

Afon Garw

Roedd yr afon a arferai gael ei galw “yr afon ddu” yn y gorffennol, sef Afon Garw, wedi鈥檌 llygru gan y glofeydd ymhellach i fyny’r cwm. Erbyn hyn mae’n ecosystem ffyniannus sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, o infertebratau sy’n byw ar wely creigiog yr afon i famaliaid mwy fel y dyfrgwn. Mae hefyd yn lle ardderchog i wylio adar gan gynnwys glas y dorlan, bronwen y d诺r, y cr毛yr glas a鈥檙 siglen lwyd 鈥 ac yn y nos, gellir gweld ystlumod y d诺r yn hela ychydig uwchben wyneb yr afon.

 

Pyllau, llyn a gwlyptiroedd

Mae gan y parc nifer o nodweddion d诺r, gan gynnwys pyllau bywyd gwyllt yn yr Ardd Ddwyreiniol, llyn addurnol a’r coetir gwlyb sy’n bwysig yn ecolegol. Mae’r rhain i gyd yn gynefinoedd allweddol i amffibiaid megis llyffantod dafadennog, brogaod a madfallod d诺r balfog. Mae’r llyn yn cefnogi amrywiaeth o adar gwyllt gan gynnwys hwyaid gwyllt a gwyddau Canada, ynghyd 芒 phoblogaeth iach o bysgod fel y pysgodyn rhudd, y rhufell a鈥檙 ysgretennod. Yn aml gwelir glas y dorlan ar fore cynnar o haf, yn plymio o ganghennau uwchben y d诺r i hela pysgod bach.

Natur
Natur

Dod yn wirfoddolwr

Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad hanfodol at redeg y parc, gan helpu gydag ystod eang o brosiectau wrth gael hwyl, cymdeithasu a dysgu sgiliau newydd.

 

Dechreuodd y rhaglen wirfoddoli yn 2005 ac mae wedi mynd o nerth i nerth diolch i’r nifer fawr o aelodau o’r gymuned leol sydd wedi torchi eu llewys a chymryd rhan. Maen nhw鈥檔 cyfarfod un dydd Sadwrn bob mis rhwng 10am a 2pm.

Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys rheoli’r ardd goetir, adfer y cynefin naturiol ym mhorfa鈥檙 Rhos a datblygu gardd natur addysgol.

 

Beth yw鈥檙 manteision i mi?

 

Mae gwirfoddoli ym Mryngarw yn weithgaredd cymdeithasol gwych, mae’n cynnig digon o ymarfer corff i鈥檞 fwynhau (mae’n llawer mwy o hwyl na’r gampfa) ac mae’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd. Byddwch hefyd yn cael y pleser o wybod eich bod yn helpu’r amgylchedd a’ch cymuned leol.

 

Os ydych yn teimlo鈥檔 angerddol ynghylch cadwraeth a’r awyr agored ac os hoffech ddysgu mwy am fod yn wirfoddolwr, ffoniwch y parc ar 01656 725155 neu anfonwch neges e-bost: bryngarw.park@awen-wales.com

Monthly Volunteering Schedule

Hydref 2021

Tachwedd 2021

Rhagfyr 2021

Jonawr 2022

Chwefror 2022

Mawrth 2022