Ysgolion a Grwpiau

Ysgolion a Grwpiau

Mae profiad uniongyrchol o fyd natur yn rhan hanfodol o addysg plentyn. Ym Mryngarw rydym wedi treulio blynyddoedd lawer yn darparu profiadau dysgu cyffrous sy’n seiliedig ar natur ar gyfer part茂on ysgol, felly rydym yn gwybod sut i sicrhau bod plant yn manteisio i鈥檙 eithaf ar eu hymweliad yma.

 

Mae ein sesiynau dan arweiniad parcmon yn rhoi cyfle i ddysgu am natur dan arweiniad arbenigwyr sydd 芒 gwybodaeth fanwl am y planhigion, yr adar a’r anifeiliaid sy’n byw yn ein parc hardd. Mae gennym hefyd ystafell ddosbarth ragorol, fodern, sy’n caniat谩u i’n cynnig addysg addasu yn 么l yr elfennau a’r tymhorau.

 

Mae ein sesiynau dan arweiniad parcmon yn cael eu cynnal bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher. Dewiswch o鈥檙 canlynol:

Teithiau cerdded byd natur

Ewch am dro i ganol byd natur. Bydd ein parcmon yn eich arwain drwy ddolydd llawn blodau, coedwigoedd dwfn, tywyll ac ar hyd glannau’r afon, bydd ein parcmon yn eich addysgu ynghylch popeth, o sut mae hedyn yn tyfu鈥檔 goeden i le mae anifeiliaid yn hoffi byw.

Ysgolion a Grwpiau
Ysgolion a Grwpiau

Hela bwystfilod bach

Torchwch eich llewys, gwisgwch eich esgidiau glaw ac ewch ar antur yn y byd mwdlyd lle mae bwystfilod bach yn byw. Bydd yr helfa hon sydd wedi’i lleoli yn ein gardd natur hudolus, ac a arweinir gan barcmon yn eich arwain yn agos at amrywiaeth o bryfetach gan gynnwys mwydod, gwlithod, miltroediaid a chwilod.

Pyllau chwilota

Cipiwch rwyd, hambwrdd a chwyddwydr a dysgwch am fywyd tanddwr diddorol pyllau Bryngarw. Bydd parcmon yn eich helpu i adnabod y creaduriaid rhyfedd a bendigedig sy’n cuddio o dan yr wyneb, o benbyliaid i gychwyr cefnwyn.

 

Ysgolion a Grwpiau
Ysgolion a Grwpiau

Adeiladu lloches

A allech chi wneud cuddfan gadarn drwy ddefnyddio canghennau a dail yn unig? Ymunwch 芒’n parcmyn i ddarganfod beth sy’n gwneud lloches oroesi dda ac adeiladwch eich creadigaeth glyd eich hun! Mae’r gweithgaredd hwn yn wych ar gyfer meithrin t卯m, cyd-weithredu, ac ar gyfer y dychymyg. Mae’r sesiwn ddwy awr annibynnol yn cynnwys taith gerdded byd natur 芒 thema byw yn y gwyllt yn ogystal 芒’r gweithgaredd adeiladu lloches.

Prisau

PRISIAU

Taith gerdded Byd Natur, Helfa Bwystfilod Bach, Pyllau Chwilota:

Dewiswch DDAU o’r gweithgareddau hyn mewn unrhyw gyfuniad! O 拢4 y plentyn*.

 

Adeiladu Lloches

O 拢5 y plentyn*. Oherwydd natur y gweithgaredd hwn, mae lle ar gyfer pob sesiwn yn gyfyngedig.

 

*Mae prisiau’n amrywio yn dibynnu ar faint y gr诺p a nifer y sesiynau sydd eu hangen. Cysylltwch 芒’r parcmyn i drafod hyn.

 

CYSWLLT

Cysylltwch 芒’r parcmyn i drafod manylion gweithgaredd, beth sydd ar gael ac archebu. Swyddfa’r Parcmyn: (01656) 725155