AR AGOR 1af Ebrill – 30fed Medi: 10y.b – 5.30y.p | 1af Hydref – 31af Mawrth: 10y.b – 4.30y.p
Social media |

Pobl ifanc yn eu harddegau yn mwynhau rhyfeddodau serol y bydysawd ym Mharc Gwledig Bryngarw

By Toni, 09th Feb 2022

Mwynhaodd grŵp ieuenctid o ddarpar seryddwyr a phobl sy’n mwynhau yr awyr agored sy’n aros yn y Village Lodge ym Mettws noson o syllu ar y sêr ym Mharc Gwledig Bryngarw ddydd Gwener 4ydd Chwefror, diolch i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Cafodd y digwyddiad, a ariannwyd gan fenter Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru, ei arwain gan Dorian Thomas o TrigPoint Adventures, gyda chymorth Paz o Glwb Bechgyn a Merched Betws, sy’n rheoli’r Village Lodge, a Pharcmon Bryngarw Beth Hopkins.

Gwnaeth Dorian helpu’r bobl ifanc yn eu harddegau i weld sêr, nodi clystyrau o sêr a lleoli planedau yn awyr glir y nos dros Fryngarw.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Dangosodd y digwyddiad hwn bartneriaeth ddiffuant rhwng nifer o wahanol sefydliadau yn cydweithio i roi profiad diddorol iawn i bobl ifanc o ryfeddodau naturiol awyr y nos. Rydym ni’n ddiolchgar i Bartneriaeth yr Awyr Agored, TrigPoint a Betws Village Lodge am eu cefnogaeth ac i gyllid Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru. Gallem ni i gyd ddysgu o ‘edrych i fyny’ gan y gall syllu ar y sêr roi tipyn o bersbectif i bob un ohonom ni, a rhoi moment o dawelwch i ni yn ein bywydau prysur, a’n helpu ni i gysylltu’n fwy â natur, rhywbeth yr ydym ni i gyd wedi ymrwymo i’w gynnig ym Mryngarw.”

Dywedodd Dorian Thomas o TrigPoint Adventures:

“Yng Nghymru rydym ni wedi’n bendithio ag Awyr Dywyll anhygoel, nid yn unig yng Ngwarchodfeydd Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog a Pharciau Cenedlaethol Eryri, dangosodd Parc Gwledig Bryngarw hyn heno. Gwnaethom ni dreulio’r noson yn edrych i fyny ar awyr y nos yn y lleoliad hardd hwn, gan nodi clystyrau o, sêr, y Llwybr Llaethog a hyd yn oed yn gwylio ambell i seren wib yn hedfan heibio! Dangosodd y grŵp gwir ddiddordeb drwy ofyn cwestiynau a nodi clystyrau o sêr fel Pleiades (Y Saith Chwaer). Edrychaf ymlaen at ymweld â Bryngarw yn y dyfodol a byddwn i’n annog y grŵp ac unrhyw un i ymweld â Bryngarw ar noson glir i syllu ar y sêr.”

Dywedodd Leila Connolly, Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Y Bartneriaeth Awyr Agored:

“O’r dechrau mae Parc Gwledig Bryngarw wir wedi ymgysylltu o ran annog agor y drysau i’r awyr agored i bawb. Cawsom ni noson mor wych gyda’r grŵp ieuenctid lleol yn archwilio’r parc, y nos ac yn dysgu am yr awyr dywyll serennog ac yn ei gwerthfawrogi. Rwy’n gwybod fy mod i wedi fy ngadael â’r teimlad fy mod i wedi gwneud rhywbeth cyffrous a gwahanol gyda fy nos Wener!”

 

Go back
arrow_circle_up